Imagens das páginas
PDF
ePub

Ffyddloniaid, ac a ddilynasent hefyd o'r blaen. Y Gorchymmyn cyntaf sy'n peri cymmeryd yr un Duw ag oedd gan Adda, Noah, ac Abraham. Yr ail Orchymmyn a bair gasâu eilunod: fel y gwnaeth Jacob, pan gladdodd efe ddelwau Rachel. Dengys llwon Abraham, ac Isaac, a Jacob, mal yr oeddynt yn perchu enw Duw, ac yn ei arfer ef yn unig ar wirionedd pwysfawr. Yr oedd y Sabboth o'r dechreuad. Melldithwyd Canaan eisiau i'w dad ef anrhydeddu ei dad yntau. Yn amser Isaac a Juda cospwyd godineb â marwolaeth. Ni fynnai Abraham ddwyn dim oddiar Lot, na Jacob oddi ar Laban. Enwog oeddynt am eu gwirionedd, a choelwyd i'w haddewidion a'u hammodau. Ni chwenny chai Abraham ddim o'r eiddo brenhin Sodom, na Joseph wraig ei feistr.*

Josua, gweinidog ac etifedd ysbryd Moses, a ddug Israel i wlad Canaan, ac a wnaeth gyfammod â hwynt, ar ufuddhâu o honynt i'r Arglwydd, a bwrw ymaith eilunod.

* Edr. Gen. ii. 3. ix. 2. xiv. 21-24. xvi. 11. xxxix. 9.

PENNOD III.

Ynghylch y Ffydd o amser Josua hyd enedigaeth Crist.

O farwolaeth JOSUA hyd amser Saul bu Israel heb frenhin; sef, yspaid yn nghylch 450* o flynyddoedd. Yn y dyddiau hynny pan bechai'r Eglwys drwy gau addoliad a drwg foesau, gadawai'r ARGLWYDD i erlidwŷr ei gorthrymmu; a phan ddiwygiai ei ffyrdd, cyfodai waredwŷr iddi. Bu llwyddiant Crefydd yn helaethach yn amser y brenhin DAFYDD, gŵr wrth fodd DUW ; † a'i fab SOLOMON a ddewisodd ddoethineb dduwiol o flaen golud bydol.

Ynghylch hyn y tybir i frenhines Sheba ddwyn y Wir Grefydd i Arabia Ddedwydd.‡ Ond wedi hynny ymlygrodd Israel fwyfwy, nes iDduw ddigio wrthynt, a chyfodi brenhin Assyria i gaethiwo y Deg Llwyth, a brenhin Babilon i gaethiwo'r Ddau eraill, gan losgi Jerusalem a'r Deml. Bu'r Ysgrythur a'r Grefydd yn brin yn nechreu teyrnasiad JoSIAH, a thrwy holl deyrnasiad AHAZ, yr hwn a gauodd y Deml:|| hynny a barodd fawr gystudd.

* Edr. Act. xiii. 20. +1 Sam. xiii. 14. Act. xiii. 22. Juda 15. 56. ‡ Edr. 1 Bren. x. 1. Arabia Felix, tu a'r Dehau. Edr. 2 Crom xxviii. 24.

O amser SOLOMON hyd gaethiwed Babilon y bu 438* o flynyddoedd. Ond argyhoeddodd y grefydd ei herlidwyr: canys y pryd hyn cyhoeddodd NEBUCHODONOZOR i'w holl daleithiau, mai DUW'r Israeliaid oedd y GWIR DDUW, gan ei fawrygu ef am wneuthur gwyrthiau dros ei bobl yn eu cyfyngder. "Bendigedig"--eb efe--"yw Duw Sadrach, Mesach, ac Abednego, yr Hwn a anfonodd ei Angel, ac a waredodd ei weision a ymddiriedasant ynddo."† Ond, am ir Caldeaid attal y gwirionedd mewn anghyfiawnder, a chystuddio Israel ddeng mlynedd a thrugain, dymchwelodd Duw eu hymerodraeth hwynt, gan ei roddi i'r Persiaid; y rhai a hyfforddiasant yr Iuddewon i ddychwelyd, ac i ail-adeiladu y Deml a Jerusalem, ac a gydnabuasant hefyd fawrhydi y Gwir Dduw. Dengys llyfr EZRA helynt y Ffydd dros 146 o' flynyddoedd ar ol dychweliad Israel Babilon.

Y prophwyd olaf, ar ol ailadeiladu'r Deml, oedd Malachi: ac yn gymmaint ag nad oedd un prophwyd i gyfodiar ei ol ef rai cannoedd flynyddoedd,nes dyfodiad Ioan Fedyddiwr, mae'n gadael siars arnynt am ddyfal ddysgu Cyfraith Moses.‡

Ar ol hyn mynnodd PTOLEMY Philadelphus, brenhin yr Aipht, Ddeuddeg a Thri

O. B 3440. ↑ Edr. Dan. iii. 28, Edr. Mal, iv. 4. O. B. 3605.

ain o ddysgawdwyr yr Iuddewon i gyfieithu yr Hên Destament o'r Hebräeg i'r Gröeg.* Ond prifiodd eraill o'r Brenhinoedd Groegaidd yn erlidwyr chwerwon yn erbyn y Wir Grefydd.

Er na bu un prophwyd yn Israel o amser MALACHI hyd IOAN Fedyddiwr, dros well na thrichant o flynyddoedd, etto glynodd yr Iuddewon yn gefnog yn eu Crefydd y dyddiau rhei'ny. Llyfrau'r APOCRYPHA a ddengys helynt yr amseroedd hyn; y rhai, er nad ydynt i'w cyfrif fel yr Ysgrythurau Sanctaidd, oblegid nad ydynt ym mhob peth yn cyttuno â hwynt, nac wedi eu ysgrifennu yn Hebräeg, na'u derbyn gan yr Iuddewon, etto haeddant barch hanesion dynion duwiol.

POMPEY† a ddarostyngodd Judea dan y Rhufeiniaid, wedi ir Iuddewon o'r blaen ddioddef llawer o doster gan y Groegiaid. Wedi i'r Goresgynwr hwn wneuthur celanedd yn Jerusalem, trôdd i'r Deml, ac a laddodd yno ddeuddeg mil: er hynny ni pheidiai 'r offeiriaid yn y cyfamser, er maint oedd y dychryn, â chyflawni swyddau'r diwrnod; canys ympryd oedd. Ymattaliodd POMPEY rhag yspeilio'r Deml o'i thrysor o ran parch i'r lle. Ond gwedi hynny daeth CRASSUS

Y Cyfieithiad hwnw a elwir SEPTUAGINT, neu Gyfieithiad y Deg a Thragain; ond yr oedd 72 o honynt, sef, 6 o bob Llwyth. Hyn a fu yn O. B. 3700. +Yr hwn a elwid POMPEIUS MAGNUS, Pompey the Great. Josephus, Hynaf, yr Iuddewon, Llyfr. xiv. Pen. iv. vii.Tu dal, 475–479.

E

awyddus, ac a ysgubodd ymaith ei golud; a chwympodd dialedd Duw ef drwy ddwylaw'r Parthiaid, y rhai mewn dirmyg a lanwasant ei safn ef âg aur.

Gwnaeth y Rhufeiniaid un Herod, Edomiad o'r naill du, yn frenhin yr Iuddewon. Yn amser yr Herod hwn y bu daeargryn mawr yn Judea, pan laddwyd dengmil o bobl, heblaw anifeiliaid lawer. Bu hefyd erlid `mawr ar yr Iuddewon am dynnu i lawr lûn eryr--lluman y Rhufeiniaid--a osodasai hwy ar ddrws y Deml.

PENNOD IV.

O ddyfodiad Crist hyd amser Trajan, Ymmerawdwr Rhufain.

Yn y flwyddyn olaf o deyrnasiad Herod y ganwyd CRIST.* Ar hyny brawychodd Herod, ac a laddodd fechgyn Bethlehem, ar hyder lladd CRIST yn ei grûd; ond bu efe ei hun farw yn y man gwedi. Er bod yr Eglwys yn o goelgrefyddol y pryd hyn, etto darllennwn yn yr Efengyl am amryw rai duwiol, megis Simeon, a Zacharias, ac Eli

OB. 3963.-Edr. Nôd, tu dal. 58.

« AnteriorContinuar »