Imagens das páginas
PDF
ePub

Merthyrwyd Justin hefyd, dysgawdwr llythyrennog; yr hwn a fuasai unwaith yn Philosophydd Cenhedlig: ond, wrth weled mor amyneddgar a chyssurus y byddai'r Cristionogion yn dioddef, dechreuodd synfeddylio; ac, wrth ymddiddan â rhyw hên Gristion, trodd at Dduw. Tystiolaethodd nad ellid gwneuthur niwaid i Gristion, er ei ladd ef. Cymmer yr hyn a ganlyn o'i ysgrifennadau ef; eithr, yn bendifaddef, o'r amddiffyniad hynod a wnaeth efe dros y Cristionogion ger bron senedd ac ymmerawdŵr Rhufain.

PENNOD VI.

Yr Amddiffyniad a wnaeth Justin Ferthyr dros y Cristionogion at senedd Rhufain a'r Ymmerawdwr.

"Y mae gan IESU enw ac ordeinhâd i fod yn Achubwr er iachawdwriaeth i'r Ffyddloniaid, a dymchweliad i'r Cythreuliaid; a hyn a ellwch chwi ei ddeall wrth y pethau a wneir yn eich golwg chwi. Oblegid yn ddiau llawer o'n Pobl Gristionogol ni, drwy enw yr Iesu a groeshoeliwyd, a iachasant, ac ydynt yn awr yn iachâu, drwy 'r holl fyd a'ch dinas hon, lawer o bobl cythrybledig gan Gythreul

iaid, y rhai ni's gallai eich swynwŷr chwi mo'u iachâu. Gwyddom i lawer a dderbyniasant ddysgybliaeth y Stoicïaid, o herwydd iddynt athrawiaethu yn odidog ynghylch y moddion goreu i Fucheddu, gael eu casâu a'u lladd, megis Heraclitus gynt a Musonius yn ein hoes ni.* Canys yr Ysprydion drwg bob amser a barasant gasineb i'r rhai a geisiant fyw wrth reswm, a gochelyd drygioni mewn neb rhyw fodd, Ac yr wyfinnau yn disgwyl osod i mi gynllwyn gan ryw un, a'm hoelio wrth bren.

"Tra 'r oeddwn yn ddilynwr dysgeidiaeth Plato, mi a glywn gablu'r Cristionogion, eithr gwelwn hwynt yn myned yn ddïofn at farwolaeth, a phob peth dychrynllyd arall. Bernais ynoffy hunan, mai anmhosibl ydoedd eu bod hwy yn byw mewn drygioni, a serch i drychyllwen. Canys pwy ag sydd ddilynwr trythyllwch a ddichon gofleidio marwolaeth yn ewyllysgar, a'i ddifeddiannu ei hun o'r pethau sydd dda ganddo?

"Nyni, wedi ein troi drwy Reswn a'r Gair, a ddilynwn yr unig a'r dïadgenedledig Dduw drwy ei Fab ef Iesu Grist. A'r rhai oeddem gynt yn ymhyfrydu mewn godineb, yn awr a hoffwn ddiweirdeb yn unig. Y rhai a arfer

* Musonius Caius Rufus, Stoic Philosopher of Etruria, who was banished by Nero for censuring his conduct. A. D. 65. Vid. Tacit. Hist, iii. 81. & Stanley's Lives of Philosophers. + Justin, before his conversion, had been a great Platonic Philosopher.

em gonsuriaeth, a'n cyssegrwn ein hunain i'r Tragywyddol Dduw. Y rhai a hoffem feddiannau yn bennaf peth, a gyfrannwn yr awrhon yr hyn sydd gennym â'r angenhogion. Pwy bynnag a gredant wirionedd y pethau a a draddodir ac a ddywedir gennym ni, ac a dderbyniasant allu i fyw felly, a ddysgir i weddio dan ymprydio, ac i geisio gan Dduw faddeuant pechodau, a ninnau a weddïwn ac a ymprydiwn gyd â hwynt. Ar ol hynny arweinir hwynt gennym ni lle bo dwfr, ac adgenhedlir hwynt yn yr unrhyw fodd o adenedigaeth ag yr adgenhedlwyd ninnau. Canys yna y golchir hwynt yn y dwfr yn enw Tad pob peth, a'n Hachubwr Iesu Grist, a'r Yspryd Glân. O herwydd Crist a ddywedodd, "Oddieithr eich geni chwi drachefn, nid ewch i mewn i deyrnas nefoedd." Nyni, ar ol y golchiad hwn, a ddygwn y credadyn at y brodyr i'r fan lle y byddont wedi ymgasglu i wneuthur gweddïau cyffredin â meddwl dyfal drostynt eu hunain, a thros yr hwn a oleuwyd, a thros bawb eraill ym mhob man, ar ein cael, drwy weithredoedd, wedi i ni adnabod Y Gwirionedd, yn geid waid da o'r gorchymmynnion a roddwydi ni, a bod yn gadwedigol yn dragywydd. Wedi gweddïau cyfarchwn ein gilydd â chusan cariad.

[ocr errors]

"Gwedi hynny dygir bara, a gwin, a phioled o ddwfr, i'r hwn sy'n flaenor ar y brodyr. Yntau, wedi eu derbyn, a gyflwyna fawl a gogonedd i Dad pob peth drwy enw'r Mab,

a'r Yspryd Glân, ac a rŷdd ddïolch am iddo ganiattâu i ni y cyfryw ddoniau. A phan orphenno ef weddïau a thalu dïolch, yr holl bobl, ag hyfryd gydsynniad, a lefara AMEN; yr hyn, yn yr Iaith Hebräeg, a arwyddocca, POED GWIR, neu, GWNELER. Gwedi i'r Rhagflaenor orphen y weithred o ddiolchgarwch, y Diaconiaid a roddant y bara a'r gwin a'r dwfr i bob un o'r rhai presennol, ac a'u dygant at y rhai absennol. Yr ymborth hwn yn ein mysg ni a elwir DIOLCHGARWCH; Yr yr hwn nid yw gyfreithlon i neb arall fod yn gyfrannog o hono, ond i'r hwn sy'n credu fod ein hathrawiaeth ni yn wir, ac a olchwyd er maddeuant pechodau, ac sydd yn bucheddu fel y dysgodd Crist. Canys nid fel bara cyffredin neu ddïod gyffredin y cymmerwn ni ý rhei'ny. Yna yn ddïau yr ydym ni yn coffau ein gilydd ynghylch y pethau hyn; a'r rhai sydd ganddynt a gynnorthwyant yr anghenus; ac yr ydym yn ddiwyd y naill gyd â'r llall. Ac ym mhob peth a roddom yr ydym, gan fendithio, yn moliannu Gwneuthurwr pawb drwy ei Fab ef Iesu Grist, a'r Yspryd Glân.

"Ac, ar y dydd a elwir y SUL, pawb oll a'r breswyliant yn y trefydd, neu'r gwledydd, a gydymgynnillant, a darllennir llyfrau 'r Apostolion, a 'Sgrythurau 'r Pophwydi, cyhyd ag y bo 'r amser yn goddef. Ar ol hyn cyd-gyfodwn oll, a thywalltwn weddïau, ac wedi gweddio, megis y rhagddywedasom ni,

cyflwynir bara, a gwin, a dwfr.* Heblaw hynny y rhai ydynt oludog a gyfranant bob un wrth ei ewyllys: a'rhyn a gasgler felly a rodder i'w gadw at y blaenor; ac yntau oddiyno a gynnorthwya 'r ymddifaid, a'r gweddwon, yr anghenog clwyfus, caethion, a d'ïeithriaid. Ar ddydd Sul yn fwyaf cyffredin y gwnawn ni ein Cynnulleidfäau, yn gymmaint ag mai hwnnw yw'r Dydd cyntaf y sefydlodd Duw y Byd Cristionogol ynddo, gan gyfodi arno ein Hachubwr Iesu Grist oddiwrth y meirw.'

Rhesymiad Justin gyda Thrypho yr Iuddew.

"Erioed ni bu, ac byth ni bydd, O Trypho, un Duw arall heblaw yr Hwn a wnaeth yr holl fyd. Ni obeithiwn ni chwaith mewn neb arall onid yn Nuw Abraham, Isaac, a Jacob. Ond nid trwy Moses y gobeithiwn; canys felly y gwnaem fel chwithau. Darllennais I am Gyfraith ddiweddarach ydoedd i ddyfod, a Thestament o awdurdod tra siccr. Y Testament hwnnw sydd raid ei gadw gan bawb yn awr a'r a geisiant gael etifeddiaeth Duw. Crist yw'r Gyfraith olaf, a'r dragywyddol, a

*The Sacrament of the Lord's Supper was administred, whenever the Primitive Cristians met for religious purposes. Water was also furnished for the feet & hands, as occasion might require

« AnteriorContinuar »